Polisi preifatrwydd a chwcis

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut rydym yn mynd ati i gasglu gwybodaeth bersonol gan ymwelwyr â’n gwefan a beth rydym ni’n ei wneud â’r wybodaeth honno. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Hampshire (HFRS) wedi comisiynu’r wefan hon ar ran Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC), ac felly ystyrir mai HFRS yw’r rheolwr data a’r perchennog data.

O ran unrhyw faterion neu ymholiadau ynglŷn â diogelu data a mynediad at eich gwybodaeth, cyfeiriwch at ddatganiad diogelu data HFRS.

Trwy ddefnyddio’r safle hwn (www.oncallfire.uk), rydych yn cytuno i dderbyn y polisi preifatrwydd hwn ac yn ymwybodol y gallai ein polisi newid o bryd i’w gilydd. Bydd unrhyw newidiadau i’r polisi hwn yn ymddangos ar y dudalen we hon.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ymdrin â’r wefan “Oncallfire” yn unig (www.oncallfire.uk). Nid yw’r polisi hwn yn ymdrin â dolenni o fewn y safle hwn i wefannau eraill, a dylech ddarllen polisi preifatrwydd y safleoedd eraill hynny i gael gwybod eu telerau. Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub Hampshire yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Gallwch gael gwybod mwy am Reoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd yr Undeb Ewropeaidd a’ch hawliau mewn perthynas â’ch data ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Sut rydym yn casglu gwybodaeth

Ffurflenni ar-lein

Mae’r holl wybodaeth a gesglir gan unrhyw ffurflen ar-lein yn cael ei llywodraethu gan gyfraith y Deyrnas Unedig a weithredir yn unol â hynny, gan gynnwys yr hyn sy’n ofynnol gan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yr Undeb Ewropeaidd, a chaiff y Gwasanaeth ei phrosesu mewn perthynas â’r ymholiad a anfonwn at wasanaethau tân ac achub eraill ar eich rhan neu at ddibenion sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Cwcis

Pan ddarparwn wasanaethau, rydym eisiau iddynt fod yn rhwydd, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Pan ddarperir gwasanaethau ar y rhyngrwyd, mae hyn weithiau’n golygu gosod darnau bach o wybodaeth ar eich cyfrifiadur. Mae’r rhain yn cynnwys ffeiliau bach o’r enw cwcis. Ffeiliau testun bach yw’r rhain sy’n cael eu creu pan fyddwch yn ymweld â safle, ac maen nhw’n cynnwys rhif unigryw a dienw.

Sut mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Nid yw ein gwefan yn defnyddio llawer o gwcis. Rhoddir isod restr o gwcis rydym ni’n eu defnyddio er mwyn i’r safle hwn weithredu’n gywir.

[RHESTR O UNRHYW GWCIS SY’N BENODOL I’R SAFLE AR ALWAD]

Cwcis a osodir gan wefannau eraill

Google Analytics

Mae Google Analytics yn offeryn grymus sy’n ein galluogi i gasglu gwybodaeth ddienw ynglŷn â sut rydych yn defnyddio ein gwefan. Gwasanaeth rhad ac am ddim yw hwn sy’n ein helpu i leihau ein costau a datblygu’r profiad gorau i ddefnyddwyr ein gwefan.

Cwci Math a diben Beth fydd yn digwydd os diffoddir y cwci hwn
Cwci parhaus – gweler isod Gweler isod
Cwci sesiwn – defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o ble mae ymwelwyr wedi dod i’r safle a pha dudalennau maen nhw wedi ymweld â nhw. Ni fydd diffodd y cwcis hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r ffordd rydych chi’n defnyddio ein gwefan. Fodd bynnag, bydd yn cyfyngu ar y wybodaeth sydd ar gael i ni sy’n ein helpu i wella ein gwefan a darparu gwasanaeth gwell i chi.

Optio allan o gael eich olrhain gan Google Analytics.

Vimeo

Rydym ni’n mewnblannu fideos ar y safle hwn o blatfform Vimeo. Mae gan Vimeo ei bolisïau cwcis a phreifatrwydd ei hun y byddem ni’n eich annog i’w darllen.

Mailgun

Rydym ni’n defnyddio gwasanaeth o’r enw Mailgun i gynnal y gwasanaeth e-bost sy’n ymateb i chi, y defnyddiwr, a hefyd yn trosglwyddo eich manylion i’r gwasanaeth tân perthnasol. Rydym wedi dewis y gwasanaeth hwn fel bod yr holl gyfathrebu rhyngoch chi, y defnyddiwr, a’r gwasanaeth rydych chi’n cysylltu ag ef yn ddiogel. Mae gan Mailgun ei bolisi GDPR ei hun, ac fe’ch anogwn i’w ddarllen os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â diogelwch eich data trwy ei wasanaeth.

Beth rydym ni’n ei wneud â’r wybodaeth a gasglwn

Defnyddio gwybodaeth

Pan fyddwch yn dewis rhoi eich manylion personol i ni o’ch gwirfodd, bydd y data personol a roddwch i ni yn cael ei ddefnyddio i’w anfon at yr Awdurdod Tân a ddewiswyd gennych o’n ffurflen ymholi yn unig.

Rhannu a datgelu gwybodaeth

Ni fydd Gwasanaeth Tân ac Achub Hampshire yn gwerthu nac yn rhentu gwybodaeth y gellir eich adnabod ohoni i unrhyw un.

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Hampshire yn anfon y wybodaeth a roddwyd gennych ar y ffurflen i Wasanaethau Tân eraill a ddewiswyd gennych yn unig.