Amdanom ni
“Un funud, gallech fod yn eistedd gartref, a’r funud nesaf, gallech fod yn eistedd mewn injan dân.”
Efallai yr hoffech chi weithio mewn tîm clòs, efallai yr hoffech chi ddysgu sgiliau gwahanol i bobl eraill neu efallai yr hoffech chi wneud gwahaniaeth, yn syml. Beth am swydd a fydd yn ennill ychydig o arian ychwanegol i chi ac yn cyd-fynd â’ch gwaith a’ch ymrwymiadau teuluol? #oncallfire
Canllaw i Weithwyr
Os ydych chi’n ystyried bod yn ddiffoddwr tân ar alwad, gallwch ddarllen mwy trwy lawrlwytho’r canllaw gwybodaeth i weithwyr.
“Mae fy merch bob amser yn fy nghyflwyno i bobl eraill fel ‘fy nhad, y diffoddwr tân’.”
Mae Shahbaz, 47 oed, sy’n dad i bedwar o blant, yn dweud bod ei ddealltwriaeth o ddiwylliant ac ieithoedd Asiaidd wedi bod yn amhrisiadwy wrth weithio yn y gymuned. Mae’n mwynhau rhannu a dysgu sgiliau newydd a’r ymdeimlad o gyfeillgarwch a pherthyn sy’n anodd ei gael mewn swyddi eraill.
“Mae bod yn ddiffoddwr tân ar alwad yn golygu mwy nag ymladd tanau yn unig.”
Mae Shannon, 23 oed, sydd hefyd yn gynorthwy-ydd gofal, yn dweud ei bod hi’n hoffi’r cyffro a’r adrenalin sy’n rhan o’r swydd a’r teimlad o berthyn i deulu’r gwasanaeth tân. Un funud, fe allai fod yn gweithio yn y gymuned, a’r nesaf fe allai fod ar injan dân yn rhuthro i achub rhywun.
Gallwch weld mwy o gynnwys ein fideos ar ein Sianel YouTube
Sylwch y bydd hyn yn agor tab newydd yn eich porwr.
Diddordeb?
Dewiswch eich Gwasanaeth Tân ac Achub agosaf yn y Deyrnas Unedig i ddangos eich diddordeb.